Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14
Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 12.30
------
(60 munud)
Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am 30 munud.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
NDM6554 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2017.
Dogfennau
ategol
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru)
2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
NDM6553 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2017.
Dogfennau
ategol
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol)
(Cymru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6550 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17.
Dogfennau
ategol
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17
Trawsgrifiad, Cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 18
Hydref 2017 - Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru
2016-17
(60 munud)
NDM6560 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:
a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;
b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;
c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn; a
d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg.
Dogfen
Ategol
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17
(15 munud)
NDM6561 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno ar argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC fel Cwnsler Cyffredinol.
(5 munud)
NDM6562 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
Adrannau 2 - 94
Atodlen 1
Adran 1
Teitl Hir
Dogfen
ategol
Bil
Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg
(Cymru)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017